Katherine Jenkins - Dros Gymru'n Gwlad (Finlandia) Lyrics
Lyrics
Dros Gymru'n gwlad, O! Dad dyrchafwn gri, Y winllan wen a roed i'n gofal ni; D'amddiffyn cryf a'i cadwo'n ffyddlon byth, A boed i'r gwir a'r glân gael ynddi nyth; Er mwyn dy Fab a'i prynodd iddo'i hun, O! crea hi yn Gymru ar dy lun.
O! deued dydd pan fo awelon Duw Yn chwythu eto dros ein herwau gwyw, A'r crindir cras dan ras cawodydd nef Yn erddi Crist, yn ffrwythlon iddo Ef; A'n heniaith fwyn â gorfoleddus hoen Yn seinio fry haeddiannau'r Addfwyn Oen.

Video
Dros Gymru'n Gwlad (Finlandia)